Mae Ceri a Deri yn ffrindiau mawr sy'n gwneud popeth gyda'i gilydd ac yn hoffi dysgu pethau newydd.Pan ddaw Ceri a Deri ar draws aderyn digartref, maen nhw'n penderfynu gwneud ty iddo. Maen nhw'n cael llawer o hwyl yn cynllunio'r ty perffaith, ond a fyddan nhw'n gallu ei adeiladu?Mae Adeiladu Ty i Aderyn yn berffaith i'w ddarllen ar y cyd, ac yn gyflwyniad da i gynllunio ar gyfer plant ifanc, yn ogystal a datblygu e sgiliau darllen.